[1] Galw 'rwyf arnat am dy fod Yn Dduw parod i wrando: Gostwng dy glust a chlyw yn rhodd Fy holl ymadrodd etto. [7] Cyfrana dy ddaionus rad, Ti, 'r hwn wyt geidwad ffyddlon, I'r rhai sy'n ymroi dan dy law, Rhag broch a braw y trawsion. [8] Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll, Fel anwyl ganwyll llygad; Yn nghysgod dy adenydd di O cadw fi yn wastad. [15] Minnau mewn myfyr fel mewn hûn, A welaf lun d'wynebpryd: A phan ddihunwyf o'r hûn hon, Y byddaf ddigon hyfryd. O cadw :: O cuddia Minnau :: myfi - - - - -
Galw 'rwyf arnat am dy fod
Yn Dduw parod i wrando;
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
Fy holl ymadrodd eto.
Myfi a ddeuaf at dy borth,
I ddisgwyl cymmhorth ddigon,
Sef dy drugaredd i lanhau
Fy holl welïau budron.
Pe llithrwn ddim,
rhag maint yw'r llid,
Fe dd'wedid fy ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gas;
Dal fi o'th ras i fynu.
Trugaredd, f'Arglwydd, heb ddim mwy,
Yw'r cwbl 'rwy'n ei geisio;
Trugaredd yw fy newis lwydd,
Trugaredd, f'Arglwydd, dyro.
Dod fesur mawr o'th
ras yn rhwydd,
O Arglwydd Dduw goruchaf;
Dyddanwch i ni felly bydd,
Yn y brawd-ddydd diweddaf.
Edmund Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]: gwelir: Na thro dy ŵyneb Arglwydd glân Pa hyd fy Arglwydd Dduw dilyth? Rhaid imi gael pob gras pob dawn Trugaredd f'Arglwydd heb ddim mwy Tyrd Ysbryd Glân tragwyddol Dduw |
[1] Calling I am upon thee for thou art A God who is ready to listen: Incline thy ear and hear benificently My whole utterance again. [7] Share thy good favour, Thou, who art a faithful keeper, To those who linger under thy hand, Against the rage and terror of the oppressive. [8] Keep me dearly from their trickery, Like the dear candle of an eye; In the shelter of thy wings O keep me continuously. [15] As for me, in contemplation as in sleep, I will see the picture of thy countenance: And when I awake from this sleep, I will delighted enough. Oh, keep :: Oh, hide :: - - - - -
Calling I am upon thee to be
A God ready to listen;
Incline thine ear, and hear as a gift
All my report yet.
'Tis I who come to thy gate,
To expect sufficient help,
That is, thy mercy to cleanse
All my filthy ulcers.
If I should slip at all,
how strong is the wrath,
It would be said I was overcome:
And cheerful would be all my foe; -
Hold me up by thy grace.
Mercy, my Lord, with nothing more,
Is all I am seeking;
Mercy is my successful choice,
Mercy, my Lord, give.
May a large measure of
thy grace come freely,
O Lord God most high;
A comfort to us thus it will be,
On the last judgment-day.
tr. 2009,19 Richard B Gillion
|
1 To just plea and sad complaint,
attend, O righteous Lord,
And to my pray'r, as 'tis unfeigned,
a gracious ear afford.
7 The wonders of thy truth and love
in my defence engage;
Thou, whose right hand preserves thy saints
from their oppressors' rage.
8 O! keep me in thy tend'rest care;
thy shelt'ring wings stretch out,
9 To guard me safe from savage foes,
that compass me about.
15 But I, in uprightness, thy face
shall view without control;
And, waking, shall its image find
reflected in my soul.
- - - - -
1 To just plea and sad complaint,
attend, O righteous Lord,
And to my pray'r, as 'tis unfeigned,
a gracious ear afford.
N Tate & N BradyA New Version of the Psalms of David in Metre 1696 |